Chwyddiant ar y gyfradd uchaf ers 1981

Mae cyfradd chwyddiant wedi codi eto ym mis Hydref, a achoswyd gan brisiau ynni a phrisiau bwyd a diod

Mae cyfradd chwyddiant ar gyfer mis Hydref wedi codi i 11.1%, i fyny o 10.1% y mis blaenorol ac ar ei gyfradd uchaf ers 1981.

Y ffigur chwyddiant diweddaraf o 11.1% yw'r uchaf yn y DU ers 41 mlynedd, ffigur na welwyd ers mis Hydref 1981.

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), mae'r cynnydd o un y cant mewn chwyddiant wedi cael ei achosi gan godiadau ym mhrisiau ynni ar gyfer trydan a nwy er gwaethaf cyflwyno'r cap prisiau yng nghynllun Gwarant Prisiau Ynni y Llywodraeth. Ond heb y gefnogaeth honno, mae SYG wedi cyfrifo y gallai chwyddiant fod wedi bod mor uchel â 13.8%.

Mae mwy o bwysau chwyddiant wedi dod trwy godiadau mawr mewn prisiau bwyd a diod. Mae'r SYG yn amcangyfrif bod prisiau wedi codi 16.4%, flwyddyn ar ôl blwyddyn, cynnydd o 1.8% o'r mis blaenorol. Dyma'r gyfradd uchaf ar gyfer chwyddiant prisiau bwyd ers 45 mlynedd.

Mae cynnydd sylweddol ym mhris llaeth, caws ac wyau yn esbonio'r cynnydd mewn chwyddiant prisiau bwyd.