Arallgyfeirio: Cadw'r fferm wrth wraidd y busnes

Yn y podlediad hwn rydym yn trafod yr ystod o gyfleoedd o ran arallgyfeirio ffermydd. Yn sicr nid yw arallgyfeirio ffermydd yn duedd newydd, ond beth sydd yn y dyfodol i dirfeddianwyr sydd am ddatblygu cyfleoedd busnes newydd yn ogystal â ffermio?

Sally Bendall yw Rheolwr Gyfarwyddwr Hollow Trees Farm yn Suffolk, sydd bellach yn cynnal ymweliadau ysgol addysgol ac sy'n cynnwys siop fferm, caffi, a llwybr teuluol. Bydd hi'n rhannu gyda chi yr heriau y mae wedi eu hwynebu, y gwersi a ddysgwyd ar hyd y ffordd, a sut mae hi wedi gallu tyfu ei busnes ers 1986. 

Mae Alison Provis, Syrfëwr Rhanbarthol CLA, yn ymuno â ni hefyd, sy'n amlinellu'r pethau allweddol i'w hystyried wrth gychwyn ar fenter fusnes newydd fel ymchwil i'r farchnad, deall eich asedau, ac ystyriaethau ymarferol fel cynllunio, ond hefyd pwysigrwydd arloesi a gallu addasu'n gyflym i amgylchiadau sy'n newid.