Dyfodol gwledig ffyniannus dan sylw yn ein digwyddiad ar-lein rhad ac am ddim

Yn nigwyddiad cyntaf CLA Cymru ar gyfer 2022, mae panelwyr arbenigol yn archwilio blwyddyn bwysig o'n blaenau ar gyfer amaethyddiaeth a busnes gwledig Cymru, ac yn ateb eich cwestiynau
1.jpg
Edrychwn i daflu goleuni ar ddatblygiadau yn y flwyddyn i ddod

“Mewn blwyddyn sy'n addawol o newid pwysig, mae ffermwyr Cymru, rheolwyr tir a phobl fusnes gwledig yn cael cyfle am ddim i ddysgu a thrafod y materion hanfodol a fydd yn effeithio ar eu bywoliaeth.” Meddai Nigel Hollett, “Bydd ein gweminar am ddim yn archwilio sut y dylai'r cynllun ffermio cynaliadwy, sydd i'w lansio ym Mil Amaethyddiaeth y gwanwyn hwn, ddatblygu i gyrraedd nodau hanfodol ym maes cynhyrchu bwyd, rheoli adnoddau naturiol a gofal amgylcheddol. Yn feirniadol, byddwn yn archwilio sut mae'n rhaid i'r cynllun gefnogi ffermio, sicrhau safonau uchel ym maes lles anifeiliaid a gofal amgylcheddol, ac annog plannu coed cyfrifol i helpu i gyrraedd nodau sero net.”

“Byddwn hefyd yn canolbwyntio ar sut mae'n rhaid gwella'r drefn gynllunio er mwyn meithrin twf gwyrdd, a sut mae'n rhaid i strategaeth economaidd wledig gadarnhaol ar ôl Covid 19 gefnogi economi fywiog gan gynnwys twristiaeth a lletygarwch. Bydd panelwyr arbenigol yn cynnig eu rhagfynegiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod — a'u cyngor i bobl fusnes gwledig.”

Mae'r panel gweminar yn cynnwys: Iain Hill-Trevor, Cadeirydd CLA Cymru, Rhys Davies, o Cadnant Planning Ltd, Morien Jones o M.P.Jones a'i Fab EnviroAgri, Lloyd James o syrfewyr siartredig Owen & Owen, Dr Charles Trotman, Uwch Economegydd CLA, Fraser McAuley, Uwch Ymgynghorydd Polisi CLA Cymru, a Mared Williams o Ystad Rhug.

“Mae'r materion hyn yn pennu dyfodol yr economi wledig,” ychwanega Nigel. “Byddwn yn edrych ar faterion sy'n flaenllaw i ffermwyr, rheolwyr tir a phobl fusnes gwledig heddiw: effaith y Rheoliadau Llygredd Amaethyddiaeth, moratoriwm presennol ar ddatblygu gwledig oherwydd lefelau ffosffad fflifiol uchel, hawliau datblygu a ganiateir, ac wrth gwrs, sut mae'n rhaid i dwf economaidd ddilyn lleddfu cyfyngiadau Covid 19 Llywodraeth Cymru.”

Cynhelir gweminar ar-lein CLA Cymru ar 26 Ionawr, rhwng 4.30-5.45pm. Nid oes unrhyw dâl. Gall mynychwyr gofrestru i dderbyn y cyfarwyddiadau ymuno drwy ffonio'r CLA ar 01547 317085.

Gallwch archebu ar y digwyddiad yma.