Gosodir deddf uchelgeisiol newydd i leihau'r sector rhentu yng nghefn gwlad Cymru

Mae CLA Cymru yn ymateb i ddatganiad Llywodraeth Cymru: Daw deddf uchelgeisiol newydd i “drawsnewid y sector tai rhent yng Nghymru” i rym, 1 Rhagfyr 2022.
"Farm Cottage" for Welsh rural rented housing 1

Wrth ymateb i ddatganiad Llywodraeth Cymru yma, dywed Nigel Hollett, Cyfarwyddwr CLA Cymru “Rhaid i'r gyfraith ddiogelu perchnogion eiddo preifat cyfrifol rhag colli incwm rhent hanfodol, ac rhag cost ychwanegol achos cyfreithiol os bydd tenantiaid yn cam-drin telerau cytundebol.”

“Mae cost newid contractau ac ymgymryd â'r newidiadau yn achosi i lawer o landlordiaid preifat feddwl eto am osod eiddo gwledig, gan arwain at ostyngiad yn y cyflenwad hanfodol o lety rhent preifat mewn ardaloedd gwledig a gwerthu cartrefi gwledig am bris y farchnad yn aml yn fforddiadwy gan berchnogion ail gartrefi yn unig.”

“Ynghyd â chynigion diweddaraf y Llywodraeth ar osod gwyliau, mae'r polisi presennol ar dai yn cael effaith negyddol ar yr economi wledig ac yn gwneud dim i ddatrys yr argyfwng tai.”