Ymddiriedolaeth Elusennol CLA

Elusen Essex i dderbyn hwb ariannol i gefnogi ysgol goedwig amser cinio
Kids Inspire Forest school image -  copyright protected. Do not use elsewhere.
Darparwyd delwedd gan Kids Inspire

Mae Kids Inspire, elusen o Chelmsford sy'n darparu cymorth iechyd meddwl a lles emosiynol i blant a phobl ifanc, wedi cael hwb ariannol gan Ymddiriedolaeth Elusennol Cymdeithas Tir a Busnes y Wlad (CLACT) i gefnogi ei gwaith.

Ariennir y CLACT bron yn gyfan gwbl gan danysgrifiadau a rhoddion gan aelodau'r CLA, sefydliad sy'n cynrychioli tua 28,000 o ffermwyr, tirfeddianwyr a busnesau gwledig.

Mae'n darparu grantiau i elusennau a sefydliadau cymunedol ledled Cymru a Lloegr sy'n rhannu ei weledigaeth i helpu i gysylltu pobl ifanc sy'n anabl neu dan anfantais â chefn gwlad.

Dyfarnwyd £2500 i Kids Inspire a fydd yn mynd tuag at Glybiau Gweithgareddau Ysgolion Coedwig, sydd wedi'u lleoli yng ngerddi'r elusen. Bydd y sesiynau yn dangos i'r plant sut y gallant gael y rhyddid i chwarae, adeiladu, creu, dychmygu a defnyddio eu synhwyrau i brofi'r awyr agored.

Bydd gweithgareddau'r ysgol goedwig yn cynyddu hyder a hunan-barch y plant drwy archwilio a datrys problemau, a byddant yn cael eu hannog i ddysgu sut i asesu a chymryd risgiau priodol yn dibynnu ar eu hamgylchedd.

Dywedodd Paula Ashfield, Pennaeth Codi Arian a Chyfathrebu yn Kids Inspire:

“Rydym wrth ein bodd o fod wedi sicrhau cyllid gan y CLACT a fydd yn ein helpu i gynnal ein gweithgareddau ysgol goedwig amser cinio, y gwyddom fod yn cael effaith gadarnhaol iawn ar y bobl ifanc rydym yn gweithio gyda nhw.

“Sefydlwyd Kids Inspire i lenwi bwlch mewn gwasanaethau iechyd meddwl i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd. Mae gan archwilio'r awyr agored gymaint o fanteision meddyliol a chorfforol ac mae ein sesiynau ysgol goedwig yn ffordd wych i'n hymwelwyr gael profiad gwirioneddol gadarnhaol a gwerth chweil.”

Ers ei sefydlu yn 1980, mae'r CLACT wedi rhoi mwy na £2m mewn grantiau i amrywiaeth eang o sefydliadau a phrosiectau.

Dywedodd Bridget Biddell, Cadeirydd CLACT:

“Rydym yn falch iawn o ddyfarnu cyllid i gymaint o sefydliadau anhygoel sy'n cael effaith mor gadarnhaol ar fywydau pobl ifanc.

“Gall mynd allan yn yr awyr iach ddarparu cymaint o fanteision meddyliol a chorfforol ac edrychaf ymlaen at glywed sut mae clybiau amser cinio ysgol y goedwig yn Kids Inspire yn ysgogi ac yn ysbrydoli'r bobl ifanc sy'n cymryd rhan.”