Ynglŷn â CLA Cymru
Representing over 3,000 members in Wales, our goals are to protect and shape the future of the Rural Landscape. From Welsh agriculture, regeneration of the rural economy, improving the Welsh planning system and working with Members of both the Senedd and Welsh MPs to shape policy.CLA Cymru provides services and representation for members with rural farming, land and business interests throughout Wales.
Cysylltwch â ni
Aelodau sy'n gwasanaethu yng Nghymru
Mae ein haelodau yn amrywio o drigolion gwledig sydd â diddordeb mewn tir, sut mae'n cael ei ddefnyddio a sut mae'n cyfrannu at y gymuned, i ffermwyr a rheolwyr tir sydd â diddordebau busnes gwahanol, ystadau o faint amrywiol ac ystod amrywiol o fusnesau sy'n gwasanaethu'r gymuned wledig. Yma yng Nghymru gwelir amaethyddiaeth law yn llaw yn aml â busnesau twristiaeth a lletygarwch a busnesau sy'n darparu amwynderau. Cefnogir yr aelodau hyn gan ein tîm o staff cenedlaethol Cymru sy'n falch o gwrdd ag aelodau yn ein swyddfa, yn aml mewn cyfeiriad aelod, neu mewn digwyddiad CLA Cymru. Gwahoddir yr aelodau i'n ffonio ar 01547 317085 er mwyn trefnu apwyntiad.
Mae ein pwyllgor Polisi Cymru yn canolbwyntio ar bolisi cenedlaethol a materion gwleidyddol sy'n effeithio ar yr aelodaeth. Mae gennym bedair cangen ranbarthol, pob un ohonynt yn cael ei chynrychioli a'i gwasanaethu gan bwyllgor.
Ymgyrchu
Rydym yn ymgyrchu yng Nghymru ac o fewn rhanbarthau Cymru, ar ran ein haelodau a'r economi wledig gyfan. Rydym yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU ar faterion neilltuedig (hy: heb eu datganoli), Llywodraeth Cymru ar y nifer o faterion datganoledig, ac rydym hefyd yn gweithio llywodraeth leol. Yn y Senedd rydym yn darparu'r ysgrifenyddiaeth ar gyfer y Grŵp Trawsbleidiol ar Dwf Gwledig sydd wedi cynnal ymchwiliad ffurfiol cyntaf y Senedd i gynhyrchiant gwledig.
Rydym yn gweithio gyda sefydliadau cymheiriaid a sefydliadau rhanddeiliaid eraill yng Nghymru ac mae gennym gynrychiolaeth mewn ystod o sefydliadau i ddiogelu buddiannau ein haelodau. Pan fydd etholiadau yn cael eu cynnal ar gyfer aelodau Cymru o Senedd y DU neu dros y Senedd, rydym yn ymgyrchu i sicrhau bod ein negeseuon yn cael eu clywed gan ymgeiswyr.
Cymorth a chyngor
As devolution continues, more and more matters require special advice in Wales. Here most land-related matters are managed by the Welsh Government, Farming is to be supported and regulated by a Welsh scheme, the planning system, economic development policy, some taxes and an increasing body of law - are unique in Wales. Two further important areas of interest for our members are residential letting and the rural tourism sector: embodying accommodation of various types, amenities and destinations, and hospitality. Our knowledge of these areas enables us to advise members on a wide range of relevant issues. We can also call upon our team of experts in our headquarters. For help and advice on any matter, large or small, contact the team at the regional office. If we are unable to deal with the query we have a database of other experts with whom we can put you in touch.
Digwyddiadau rhanbarthol
Rydym yn trefnu cyfres o ddigwyddiadau sy'n canolbwyntio ar ddefnyddiau tir diddorol, arloesi, meysydd arbennig o ddiddordeb neu ddigwyddiadau cymdeithasol i'n haelodau gwrdd, rhwydweithio, dysgu a mwynhau. Fel arfer roedd y rhain yn cynnwys Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru a'i digwyddiadau'r gwanwyn a'r gaeaf, a hefyd y sioeau rhanbarthol allweddol.
Rydym wedi bod yn rheoli nifer o ddigwyddiadau ar-lein poblogaidd. Mae'r rhain yn cael eu hysbysebu yn ein eNews ac ar dudalennau rhanbarthol cylchgrawn Tir a Busnes cenedlaethol y CLA.
Budd-daliadau
Gall aelodau gael mynediad at ystod o fudd-daliadau unigryw gan gynnwys ein cynnig yswiriant, cyfleustodau, gofal iechyd, cerbydau gostyngol a chynigion gan aelodau eraill.
Ein pwyllgorau
Ein pwyllgor polisi cenedlaethol Cymru ac aelodau ein pwyllgor cangen yw'r “llygaid a chlustiau ar lawr gwlad” i CLA Cymru, ac maent yn ffurfio rôl bwysig wrth lunio polisi cenedlaethol, gan sicrhau bod barn a phryderon aelodau yn cael eu hystyried. I gael gwybod pwy sydd ar eich pwyllgor cangen cliciwch ar eich rhanbarth o Gymru isod. Gall aelodau a hoffai gymryd rhan mewn pwyllgor wneud cais - neu wneud cais i fod yn arsylwr mewn cyfarfod. Gall pob aelod, wrth gwrs, gymryd rhan yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol eu priod bwyllgor cangen.
Polisi Cymru
Pwyllgor Cangen Gogledd Cymru
Pwyllgor Cangen Sir Feirionnydd a Maldwyn
Pwyllgor Cangen Dyfed
Pwyllgor Cangen De Ddwyrain Cymru
Dewch yn aelod
Ni fu erioed amser pwysicach i elwa o fod yn aelod o'r CLA: os nad ydych eisoes yn rhan o'n sefydliad cysylltwch â'r swyddfa ranbarthol ar 01547 317085 neu e-bostiwch ni i gael gwybod mwy.