Trethiant ymddiriedolaethau

Mae'r CLA wedi ymateb i ymgynghoriad Trethiant Ymddiriedolaethau CThEM. Mae CThEM yn cynnal adolygiad o bob agwedd ar drethiant ymddiriedolaeth i weld a ellir sicrhau tryloywder, tegwch a niwtraliaeth treth.

Er bod treth etifeddiaeth yn cael ei hystyried yn aml fel treth ar farwolaeth, mae ganddi ganlyniadau oes hefyd, ac rydym wedi pwysleisio nad yw ymddiriedolaethau fel arfer yn cael eu defnyddio gan aelodau ar gyfer lliniaru treth ond fel offeryn pwysig i ddiogelu asedau personol a busnes o ddydd i ddydd ac ar gyfer y genhedlaeth nesaf. Rydym hefyd wedi tynnu sylw at feysydd lle credwn y gallai fod cyfundrefn fwy syml - yn enwedig ar gyfer ymddiriedolaethau i bobl ifanc. Rydym hefyd wedi dadlau yn erbyn rhai newidiadau posibl a awgrymwyd, er enghraifft, i ddileu'r Prif Ryddhad Preswylfa ar gyfer rhai buddiolwyr ymddiriedolaeth.

Trethiant ymddiriedolaethau

Mae'r CLA wedi ymateb i Ymgynghoriad Trethu Ymddiriedolaethau CThEM
Visit this document's library page
File name:
A2431014_consltresp_Taxation_of_Trusts_26.2.19.pdf
File type:
PDF
File size:
159.5 KB