Roger Tetlow

Image of Roger Tetlow

Mae Roger yn Gyfreithiwr gyda bron i 20 mlynedd o brofiad yn cynghori aelodau'r CLA ar eu hymholiadau cyfreithiol.

I ddechrau bu'n gweithio mewn practis preifat mewn cwmni gwledig yn Devizes, Wiltshire cyn treulio 8 mlynedd yn gweithio'n fewnol i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn ei Phrif Swyddfa yn Llundain, gan ei chynorthwyo i reoli ei tirddaliadau, cyn symud i'r CLA.

Mae'n rhoi cyngor i aelodau ar ystod eang o faterion cyfraith tir gwledig megis problemau cofrestru tir a dehongli hawddfreintiau a chyfamodau. Mae anghydfodau ffiniau ac anghydfodau hawliau tramwy preifat yn ffurfio rhan fawr o'i lwyth gwaith. Yn ogystal, mae'n cynghori'r aelodau ar y gyfraith sy'n ymwneud ag atebolrwydd atgyweirio comin a chancel yn ogystal â phrydlesi busnes.

Job title:
Uwch Gynghorydd Cyfreithiol, Llundain
E-mail address:
roger.tetlow@cla.org.uk
Phone number:
020 7235 0511