Troseddoli gwersylloedd heb awdurdod

Mae'r Llywodraeth yn creu trosedd newydd i fynd i'r afael â gwersylloedd heb awdurdod

Mae'r Ysgrifennydd Cartref wedi cyhoeddi y bydd y llywodraeth yn cryfhau pwerau'r heddlu ac yn creu trosedd newydd i fynd i'r afael â gwersylloedd heb awdurdod.

Bydd y drosedd newydd hon yn targedu trosedwyr sy'n defnyddio cerbydau i breswylio ar dir sy'n achosi aflonyddwch ar gymunedau lleol yn benodol.

Bydd yr heddlu'n cael pwerau i atafaelu cerbydau ac arestio troseddwyr.

Caiff y drosedd ei ddiffinio'n dynn a bydd yn berthnasol dim ond mewn achosion lle:

  • mae person yn 18 oed neu'n hŷn yn defnyddio cerbydau i breswylio ar y tir — mae hyn yn sicrhau nad yw gwersyllwyr achlysurol yn cael eu heffeithio
  • eu bod yn preswylio neu'n bwriadu preswylio ar dir heb ganiatâd y meddiannydd — bydd hyn yn sicrhau na fydd achosion anfwriadol o dresbys yn cael eu heffeithio, megis cerddwyr neu heicwyr
  • maent wedi achosi neu'n debygol o achosi difrod sylweddol, aflonyddwch neu ofid
  • methant ag ymateb i gais gan y meddiannydd neu'r heddlu i adael y tir a symud eu heiddo neu maent yn dychwelyd i'r tir o fewn 12 mis gyda bwriad i breswylio gyda cherbyd, yn dilyn y cais hwnnw

Bydd gan yr heddlu bellach fwy o bwerau i ddelio â gwersylloedd heb awdurdod, felly mae'n hanfodol bwysig eu bod yn defnyddio'r awdurdod hwn i fynd i'r afael â digwyddiadau yn uniongyrchol a fydd yn tynnu'r pwysau oddi ar berchnogion tir

Llywydd y CLA Mark Bridgeman

Wrth ymateb i'r cyhoeddiad hwn, dywedodd Llywydd CLA Mark Bridgeman:

“Ers blynyddoedd, mae ffermwyr a thirfeddianwyr wedi cael eu heffeithio'n ddifrifol gan y difrod a all gael ei achosi gan wersyllfeydd heb awdurdod. Gan fod eu busnesau yn cael eu hamharu a'u teuluoedd yn cael eu bygwth, mae cael datrys y sefyllfa'n broses straen a llafurus ac mae'n costio miloedd o bunnoedd mewn ffioedd cyfreithiol a chostau clirio. Bydd y pwerau newydd, y mae'r CLA wedi cefnogi'n gryf, yn cael eu croesawu gan gymunedau gwledig.”

“Bydd gan yr heddlu bellach fwy o bwerau i ddelio â gwersylloedd heb awdurdod, felly mae'n hanfodol bwysig eu bod yn defnyddio'r awdurdod hwn i fynd i'r afael â digwyddiadau yn ben-ymlaen a fydd yn tynnu'r pwysau oddi ar berchnogion tir. Mae'r math hwn o drosedd hefyd yn ein rhoi ar gyfartal â gwledydd eraill, fel Iwerddon a'r Alban, lle mae gwersylloedd heb awdurdod wedi bod yn anghyfreithlon ers peth amser.”