Pam plannu coed: A yw creu coetir i mi?

Yn y bennod podlediad hon edrychwn ar y ffactorau allweddol i'w hystyried wrth benderfynu os creu coetir yw'r symudiad cywir i chi

Mae Llywodraeth y DU yn awyddus iawn i weld llawer mwy o goetir wedi'i blannu ledled y wlad fel un o'r ffyrdd o fynd i'r afael â'r mater newid yn yr hinsawdd. Ond yn y bôn mae creu coetir yn benderfyniad anadferadwy, felly fel tirfeddiannwr bydd angen i chi ystyried eich opsiynau yn ofalus.

Beth fyddwch chi'n ei glywed?

Bydd Graham Clark, Uwch Gynghorydd Polisi Defnydd Tir y CLA, yn esbonio manteision plannu coed ar eich tir, y mathau o grantiau sydd ar gael a sut i wneud cais amdanynt, a'r gymeradwyaeth reoleiddiol sydd ei angen i ddechrau arni.

Bydd Graham hefyd yn siarad â ni drwy'r rheolaeth barhaus sydd ei angen, a pha ffactorau i'w hystyried wrth benderfynu pa goed i'w plannu a ble i'w plannu