Lliniaru'r newid yn yr hinsawdd

Targedau uchelgeisiol a bennir yn yr adroddiad ar newid hinsawdd
Sun shining through trees

Wrth ymateb i adroddiad y Pwyllgor ar Newid yn yr Hinsawdd (CCC) ar y Chweched Gyllideb Garbon, dywedodd Dirprwy Lywydd y CLA, Mark Tufnell:

“Mae torri allyriadau nwyon tŷ gwydr 63% ar draws yr economi dros y 15 mlynedd nesaf yn darged uchelgeisiol dros ben.

“Er mwyn cyrraedd y nod hwn, mae'r CCC wedi cynyddu lefel yr uchelgais sy'n ofynnol gan y sectorau amaethyddiaeth a defnydd tir, gan alw am ostyngiadau allyriadau mewn ffermio ochr yn ochr â thargedau mawr ar gyfer plannu coed ac adfer mawndiroedd - mae cryfhau'r defnydd tir yn rhan fawr o'r 'ateb' i gyflawni sero net.

“Er mwyn i hyn fod yn ymarferol, mae angen rhoi polisïau'r llywodraeth i gefnogi camau brys gan dirfeddianwyr Cymru a Lloegr yn eu lle. Ystyrir y cynllun Rheoli Tir Amgylcheddol newydd (ELMS) fel y prif gyfrwng i leihau'r allyriadau hyn o amaethyddiaeth, ochr yn ochr â chynyddu bioamrywiaeth a chyrraedd targedau amgylcheddol eraill. Fodd bynnag, ni fydd ELMS ar gael tan 2024, ac felly mae angen y fframwaith polisi cywir arnom hefyd i ganiatáu i fuddsoddiad preifat ddod ymlaen, fel ar gyfer gwrthbwyso carbon.

“Mae llawer o fusnesau gwledig eisoes yn cymryd camau i symud tuag at arferion ffermio carbon isel o wella dilyniadu a storio carbon, ac maent yn awyddus i annog mabwysiadu technolegau newydd ac arloesi yn gyflym. Fodd bynnag, rhaid ystyried anghenion ehangach ffermio a natur mewn cynlluniau i frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd.”

“Mae'r CLA hefyd yn gefnogol i ddatgarboneiddio'r stoc adeiladau, er mai dim ond os yw'r fethodoleg EPC yn asesu capasiti thermol adeiladau hŷn yn gywir ac mae'r metrig yn symud o ddefnyddio'r gost tanwydd i gost carbon yn ei gyfrifiadau y gellir cyflawni'r targed hynod uchelgeisiol hwn. Rhaid sicrhau bod cymorth wedi'i dargedu ar gael ar gyfer cartrefi gwledig oddi ar y grid nwy er mwyn galluogi pontio effeithiol i wresogi carbon isel. At hynny, mae angen uwchraddio gridiau trydan gwledig er mwyn ymdopi â mwy o wresogi trydan.”