Lleihau'r risg o danau gwyllt

Ceisiwch osgoi defnyddio barbeciws i leihau'r risg o dân gwyllt, meddai CLA
bbq.jpg

Mae'r Gymdeithas Tir a Busnes Gwlad (CLA) yn annog pobl i osgoi defnyddio barbeciws a chynnau tanau yng nghefn gwlad.

Daw'r alwad yn dilyn cynnydd mewn tanau gwyllt sy'n torri allan ledled y wlad ar ardaloedd o rhostir, oherwydd tywydd cynnes a thir hynod sych.

Yn ddiweddar mae diffoddwyr tân wedi brwydro yn erbyn tanau gwyllt yn Marsden Moor, Saddleworth Moor, Bodmin Moor, Dartmoor ac Exmoor.

Gydag amodau sych a heulog ar fin parhau, mae disgwyl i fwy o bobl ymweld â chefn gwlad dros benwythnos gŵyl y banc.

Mae'r CLA, sy'n cynrychioli 28,000 o ffermwyr, rheolwyr tir a busnesau gwledig ledled Cymru a Lloegr, yn dweud y gellir osgoi digwyddiadau difrifol os glynnir at y Cod Cefn Gwlad.

Mae lleihau'r risg o danau gwyllt yn allweddol ar yr adeg hon o'r flwyddyn

Llywydd y CLA Mark Bridgeman

Dywedodd Llywydd CLA Mark Bridgeman:

“Mae tanau gwyllt yn cael canlyniadau dinistriol i dda byw a bywyd gwyllt, heb sôn am newid yn yr hinsawdd a'r rhai sy'n byw ac yn gweithio mewn ardaloedd gwledig.

“Er ein bod am i bawb fwynhau eu hunain y penwythnos yma yng nghefn gwlad, mae'n hanfodol bwysig bod pobl yn gweithredu'n ddiogel ac yn gyfrifol.

“Gyda hynny mewn golwg, mae mwy o berygl o dân sy'n gysylltiedig â defnyddio barbeciws tafladwy felly dylid eu hosgoi ar bob cyfrif. Mae lleihau'r risg o danau gwyllt yn allweddol ar yr adeg hon o'r flwyddyn.”

Ychwanegodd Mr Bridgeman:

“Bydd yn helpu pawb os yw ymwelwyr a chymunedau gwledig fel ei gilydd yn cymryd i galon ysbryd y Cod Cefn Gwlad; Parchu, Diogelu, Mwynhau.”

Dysgwch fwy am y Cod Cefn Gwlad sydd wedi'i adnewyddu yn ddiweddar yma