Arallgyfeirio Fferm: Beth yw eich cyfleoedd?

Er y gall arallgyfeirio fod â risgiau, mae'n cwmpasu ystod eang o ffrydiau incwm newydd posibl ac mae llawer o fusnesau wedi dod o hyd i ffyrdd llwyddiannus a phroffidiol o ehangu a datblygu eu busnes.

Beth fyddwch chi'n ei glywed?

Mae Fraser McAuley, Uwch Gynghorydd Polisi CLA, yn esbonio sut y bydd newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar gyfleoedd arallgyfeirio, sut y gall y CLA helpu gyda'ch prosiect arallgyfeirio, a'r ystyriaethau pwysig wrth gychwyn ar fenter fusnes newydd. 

Mae aelod o'r CLA, Rhys Jones, yn ymuno â ni hefyd, sy'n rhannu gyda ni sut y llwyddodd i gyfuno ei fferm deuluol gyda'i angerdd am iechyd a ffitrwydd i greu campfa wedi'i seilio ar y fferm o'r enw “Cattlestrong”. Mae'n dweud wrthym am y rhwystrau mwyaf a wynebodd wrth sefydlu ei fusnes ffitrwydd a'i gynlluniau ar gyfer y dyfodol.