Arbennig Etholiad Cymru: Beth sydd nesaf i Gymru wledig?

Yn y podlediad hwn, mae Cadeirydd CLA Cymru, Rory McLaggan, sy'n rhedeg Ystâd Merthyr Mawr, yn rhannu gyda ni ei feddyliau ar yr hyn fyddai'n gwneud gweithredu ei fusnes yn haws, llwyddiannau Llywodraeth Cymru a'r rôl sydd gan ffermwyr a thirfeddianwyr wrth liniaru newid yn yr hinsawdd.
Mae Angharad Owen hefyd yn ymuno â ni, sydd gyda'i brawd yn rheoli eu busnes teuluol trydydd cenhedlaeth sy'n cynnwys parc gwyliau a ffermio ger Abergele. Mae Angharad yn trafod heriau'r system gynllunio bresennol a sut i gadw talent ifanc yng nghefn gwlad Cymru.