Mae gan gwrs addysg botensial i daflu goleuni ar gynhyrchu bwyd yn y DU, meddai CLA

Dywed CLA y dylid dysgu plant ysgol am y rôl flaenllaw y mae ffermwyr yn ei chwarae wrth frwydro yn erbyn newid hinsawdd a dirywiad natur
Sunset over field

Heddiw, bydd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg, Nadhim Zahawi AS, yn cyhoeddi TGAU newydd mewn Hanes Naturiol. Mae'r cwrs addysg uwchradd newydd hwn yn ffurfio rhan o Strategaeth Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd yr Adran Addysg, sy'n cael ei lansio ar 21 Ebrill.

Dywed yr Adran Addysg y bydd y cwrs newydd hwn yn helpu “pobl ifanc i ddatblygu gwybodaeth ardderchog o Wyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) a chyfleoedd ymarferol i wella bioamrywiaeth a gwydnwch hinsawdd.”

Yng ngoleuni hyn, mae'r Gymdeithas Tir a Busnes Gwlad (CLA) wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol i dynnu sylw at bwysigrwydd rheoli tir yn y DU wrth ystyried datblygu'r maes llafur ar gyfer y cwrs dysgu newydd.

Canmolodd Llywydd CLA, Mark Tufnell gyflwyno'r fenter newydd hon, trwy ddweud: “Mae'r CLA yn croesawu'r syniad o ddysgu pobl ifanc am faterion amgylcheddol a chynaliadwyedd mewn ffordd fwy strwythuredig.”

Mae'r CLA yn croesawu'r syniad o ddysgu pobl ifanc am faterion amgylcheddol a chynaliadwyedd mewn ffordd fwy strwythuredig.

Llywydd CLA, Mark Tufnell

“Rydym yn gobeithio y bydd yr Adran Addysg, wrth ddylunio'r cwrs, yn ystyried rhoi dealltwriaeth i fyfyrwyr o safonau cynhyrchu bwyd o'r radd flaenaf y DU. Mae tirfeddianwyr a ffermwyr Prydain ymhlith y stiwardiaid mwyaf blaengar yr amgylchedd naturiol a geir yn unrhyw le yn y byd.”

Mae Mark yn parhau drwy annog llunwyr polisi i gynnwys y sector mewn ymgynghoriadau drwy ychwanegu: “Rydym yn gobeithio felly y bydd rheolwyr tir sydd ag arbenigedd priodol yn rhan o lunio'r cwricwlwm. Byddai'r CLA, sy'n cynrychioli tua 28,000 o reolwyr tir yng Nghymru a Lloegr, yn croesawu'r cyfle i weithio gyda'r Llywodraeth wrth ddatblygu'r fenter newydd gyffrous hon.”