Hwb i wenyn

Mae Defra yn gweithio gyda gwenynwyr i weithredu Cynllun Gwenyn Iach 2030

Cyhoeddwyd llu o gamau gweithredu newydd gan y Llywodraeth ar 5 Hydref gyda'r nod o gynnal poblogaethau o wenyn mêl yng Nghymru a Lloegr.

Cyhoeddodd Defra ei Gynllun Gweithredu ar gyfer Cynllun Gwenyn Iach 2030 sy'n nodi mwy na 50 o gamau y bydd gwenynwyr, ffermwyr gwenyn, cymdeithasau gwenyn a'r llywodraeth yn eu gwneud i ddiogelu a gwella poblogaethau o wenyn mêl.

Mae gwenyn mêl yn parhau i wynebu pwysau gan amrywiaeth o blâu, clefydau a bygythiadau amgylcheddol ac mae'r Cynllun Gweithredu newydd yn nodi camau gweithredu i gynnal iechyd gwenyn mêl a chadw gwenyn yng Nghymru a Lloegr dros y degawd nesaf. Datblygwyd y cynllun mewn ymgynghoriad â rhanddeiliaid ac mae'n cynnwys hyrwyddo hyfforddiant a chymorth fel camau allweddol i wella sgiliau cadw gwenyn a darparu cymuned gefnogol a chynhwysol.

Mae gwenyn mêl yn cyfrannu'n uniongyrchol at gynhyrchu bwyd ac yn gwneud cyfraniad pwysig, drwy beillio, at gynhyrchu cnydau a'r amgylchedd ehangach.

Dim ond un o lawer o rywogaethau peillio yn y DU ydynt, ochr yn ochr â 26 rhywogaeth o wenyn cacwn, dros 250 o rywogaethau o wenynen unigol a channoedd o fathau o bryfed hofran, glöynnod byw a gwyfynod. Mae camau gweithredu i gefnogi a gwella statws peillio gwyllt wedi'u nodi yn Strategaeth Genedlaethol Peillio Lloegr.

Mae budd economaidd peillio - a ddarperir gan bob un o'r grwpiau rhywogaethau hyn - i gynhyrchu cnydau yn y DU dros hanner biliwn o bunnoedd bob blwyddyn, yn seiliedig ar gynnyrch.

Mae'r cynllun yn gam pwysig tuag at gyflawni'r pedwar canlyniad allweddol a nodir yng Nghynllun Gwenyn Iach 2030:

  1. Bioddiogelwch effeithiol a safonau da o ran hwsmonaeth, er mwyn lleihau risgiau plâu a chlefydau ac felly gwella cynaliadwyedd poblogaethau gwenyn mêl.
  2. Gwell sgiliau a gallu cynhyrchu/capasiti gwenynwyr a ffermwyr gwenyn.
  3. Gwyddoniaeth gadarn a thystiolaeth sy'n sail i'r camau a gymerwyd i gefnogi iechyd gwenyn mêl.
  4. Mwy o gyfleoedd ar gyfer cyfnewid gwybodaeth a gweithio mewn partneriaeth ar iechyd gwenyn mêl ac anghenion ehangach peillio.

Wrth lansio'r Cynllun Gweithredu, dywedodd Rebecca Pow, y Gweinidog Amgylchedd:

Yn y flwyddyn hynod bwysig hon i fyd natur, mae ein Cynllun Gweithredu yn llawn camau ystyrlon, diriaethol a fydd yn cyflawni nodau Cynllun Gwenyn Iach 2030 i ofalu am iechyd rhai o'n pryfed mwyaf eiconig a diwyd - gwenyn mêl. Hoffwn ddiolch i'n rhanddeiliaid iechyd gwenyn mêl sydd wedi chwarae rhan bwysig wrth ddatblygu ein cynllun, ac edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda'n gilydd i helpu i sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn gallu mwynhau'r hobi a'r proffesiwn gwych hwn tra'n cysylltu â natur.

Bydd y Cynllun Gweithredu bellach yn cael ei symud ymlaen gyda'i gilydd mewn cydweithrediad â gwenynwyr, ffermwyr gwenyn, cymdeithasau cadw gwenyn a'r llywodraeth, ochr yn ochr â chamau parhaus i gefnogi peillio gwyllt o dan Strategaeth Genedlaethol Peillio Lloegr a Chynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer Peillio.

Mae'r Uned Gwenyn Genedlaethol (NBU) yn cynnal cronfa ddata wirfoddol o wenynwyr gweithredol o'r enw BeeBase. Anogir gwenynwyr nad ydynt wedi'u cofrestru gyda BeeBase yn gryf i gysylltu â'r NBU ar-lein i gofrestru gyda BeeBase am ddim. Mae cofrestru yn rhoi ymweliad am ddim i'r gwenynwr gan eu harolygydd gwenyn lleol a mynediad at ystod eang o wybodaeth am eu crefft.

Bydd Bil Amgylchedd a Deddf Amaethyddiaeth nodedig Defra yn gwella ac yn diogelu ein hamgylchedd naturiol gwerthfawr a'n hecosystemau amrywiol gan gynnwys gwella cynefinoedd ar gyfer peilliaid. Mae Defra a Natural England hefyd yn dod â phartneriaid, deddfwriaeth a chyllid ynghyd, i greu Rhwydwaith Adfer Natur ledled Lloegr. Yn Uwchgynhadledd G7 yng Nghernyw, fe wnaethom gyhoeddi'r Compact Natur — ymrwymiad gan arweinwyr y G7 i atal a gwrthdroi colli bioamrywiaeth yn fyd-eang erbyn 2030, gan gynnwys mynd i'r afael â datgoedwigo. Byddwn yn adeiladu ar yr uchelgais hwn gyda mwy o wledydd yn ddiweddarach eleni pan fydd y DU yn cynnal cynhadledd newid hinsawdd y Cenhedloedd Unedig COP26 yn Glasgow.