Cynllun peilot cymorth un-i-un ar gyfer datblygu busnes yng Nghymru

Mae CLA Cymru yn cynllunio'r cyntaf o'i Hybiau Busnes i gefnogi aelodau sy'n datblygu eu busnesau.
Monmouthshire Business Hub mosaic RD
Bydd arbenigwyr o bedair prif ffynhonnell cymorth wrth law i drafod eich cynlluniau busnes.

Mae CLA Cymru yn lansio ei 'Business Hub' Cymru. Gall rheolwyr busnes ddod draw a gweithio drwy gynlluniau datblygu busnes gydag arbenigwyr o Fanc Datblygu Cymru, Cyngor Sir Fynwy a Busnes Cymru.

Ydych chi am arallgyfeirio neu ddatblygu eich busnes ymhellach? Oes angen cymorth neu gyllid busnes arnoch chi? Mae CLA Cymru yn ffurfio canolbwynt busnes i'n haelodau, lle byddwn yn dod ag arbenigwyr perthnasol ynghyd yn yr ystafell ar yr un pryd, i'ch helpu i weithio trwy eich cynlluniau, ac i'ch cyflwyno i ddarpar fanciau a chyllidwyr.

Dywed Sarah James, CLA Cymru, Cynghorydd Polisi ac Ymgysylltu, “Gall aelodau sydd â buddiannau busnes yng Nghymru elwa o fenter i helpu i lywio'r system o gymorth busnes yng Nghymru — gan gynnwys buddsoddiad gan Fanc Datblygu Cymru a grantiau, hyfforddiant a chymorth gan Busnes Cymru — braich o dîm datblygu economaidd Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Fynwy.”

“Bydd y digwyddiad Hwb Busnes cyntaf hwn yn cael ei dreialu yn Sir Fynwy ar 14eg Mawrth. Byddwn yn dod â Banc Datblygu Cymru i Neuadd Sir Fynwy, Y Rhadyr, Brynbuga, ynghyd ag Ymgynghorydd Busnes yr Awdurdod Lleol a Busnes Cymru, i roi cyngor un-i-un i'r aelodau Mae archebu yn hanfodol.”

Dywed Michelle Noble gan Banc Datblygu Cymru, “Rydyn ni yma i helpu busnesau yng Nghymru i ddarganfod mwy am gymorth lleol. Gan gydweithio gallwn ddarparu cyllid i ddechrau neu ehangu busnes, gan gefnogi entrepreneuriaid gyda chyllid er mwyn prynu offer newydd neu hyd yn oed brynu busnes.”

Ychwanega Sarah James, “Yn yr amseroedd hyn, lle gallai arallgyfeirio fod yn allweddol i gynnal busnes cynaliadwy, byddem wrth ein bodd yn clywed gan aelodau: pa mor fach neu'n fawr yw eich syniad, rydym yn credu y gallwn helpu.”

Bydd CLA Cymru yn cynnal digwyddiadau tebyg ledled Cymru, felly gwyliwch y gofod hwn a chysylltwch â ni (Sarah.James@cla.org.uk) i ofyn am ddigwyddiad yn eich ardal chi.

Cyswllt allweddol:

Picture of a Head and Shoulders for Person with a Missing Profile Photo
Sarah James Cynghorydd Polisi ac Ymgysylltu, CLA Cymru