Mae angen atebion i sicrhau nad yw tir gwerthfawr i'w ddatblygu yn cael ei golli oherwydd perygl llifogydd ac erydu arfordirol

Mae CLA Cymru yn ymateb i bolisi diwygiedig Llywodraeth Cymru ar Ddatblygu, Llifogydd ac Erydu Arfordirol a'i Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio yn galw am weithredu i liniaru'r risgiau er mwyn galluogi datblygiad cadarn i ddigwydd
IMG_9426.jpg
In spate: afon o Dde Cymru mewn llifogydd diweddar

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi gofyniad polisi cynllunio newydd bod rhaid i ddatblygwyr ystyried llifogydd posibl neu erydiad arfordirol yn y dyfodol oherwydd cynhesu byd-eang. Dywed Cyfarwyddwr CLA Cymru, Nigel Hollett, “Rydym yn croesawu dull Llywodraeth Cymru o reoli effeithiau newid yn yr hinsawdd. Rhaid i'r llywodraeth gydweithio â thirfeddianwyr a datblygwyr i sicrhau nad yw cynigion datblygu cadarn yn cael eu heithrio, a chreu atebion i alluogi datblygu tir addas i gyrraedd targedau tai'r llywodraeth.”

Mae Nodyn Cyngor Technegol diwygiedig Llywodraeth Cymru (TAN) 15: Datblygu, llifogydd ac erydu arfordirol yn cyflwyno newidiadau i'r ffordd y caiff risgiau llifogydd ac erydu arfordirol eu hasesu yn y broses gynllunio. Daw'r TAN i weithredu'n ffurfiol ar 1 Rhagfyr. Wedi'i gynllunio i'w ddefnyddio ochr yn ochr â'r polisi i nodi ardaloedd risg ac ardaloedd risg posibl, mae Map Llifogydd newydd ar gyfer Cynllunio wedi cael ei ddarparu gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Mae'n adeiladu mewn risgiau yn y dyfodol sy'n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd, a thrwy hynny sicrhau y caiff y rhain eu hystyried wrth wneud penderfyniadau.

Ychwanega Nigel, “Yn ystod y blynyddoedd diwethaf rydyn ni wedi gweld sut mae arwynebedd tir Cymru sydd dan fygythiad fel hyn wedi cynyddu i lefel o 11.3 y cant. Bydd yn bwysig i dirfeddianwyr a datblygwyr fod yn ymwybodol o'r polisi ac, wrth edrych ymlaen, er mwyn hwyluso rhyddhau tir addas i'w ddatblygu, mae angen i ni weithio gyda'n gilydd i ddod o hyd i atebion newydd i fynd i'r afael â'r broblem.”

Gellir gweld TAN 15 yma.

Mae'r adroddiad ymgynghori cefndir, a arweiniodd at TAN 15, ar gael yma.

Mae'r Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio ar gael yma.